Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Gwener, 26 Chwefror 2016
Amser: 11.15 -
13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3564
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Melding AC (Cadeirydd) William Graham AC (yn lle Paul Davies AC) Jeff Cuthbert AC (yn lle Ann Jones AC) Eluned Parrott AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Y Prif Weinidog Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, Jocelyn Davies ac Ann Jones.
Roedd William Graham yn dirprwyo ar ran Paul Davies a Jeff Cuthbert yn dirprwyo ar ran Ann Jones yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
Bu'r Pwyllgor yn holi'r Prif Weinidog ar bynciau a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol yn ystod y pedwerydd Cynulliad.
Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth:
· yn cymharu cyfran yr ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol â chyfran y penodiadau gwirioneddol o'r grwpiau hyn;
· ynghylch effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir i annog ceisiadau gan bobl yn y grwpiau hynny.
Nodwyd y papurau.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu gynharach a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.